13 Ond pan ddaw ef, Ysbryd y Gwirionedd, fe'ch arwain chwi yn yr holl wirionedd. Oherwydd nid ohono'i hun y bydd yn llefaru; ond yr hyn a glyw y bydd yn ei lefaru, a'r hyn sy'n dod y bydd yn ei fynegi i chwi.
14 Bydd ef yn fy ngogoneddu i, oherwydd bydd yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.
15 Y mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais ei fod yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.
16 “Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i ddim mwy, ac ymhen ychydig wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld.”
17 Yna meddai rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, “Beth yw hyn y mae'n ei ddweud wrthym, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’, ac ‘Oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad’?
18 Beth,” meddent, “yw'r ‘ychydig amser’ yma y mae'n sôn amdano? Nid ydym yn deall am beth y mae'n siarad.”
19 Sylweddolodd Iesu eu bod yn awyddus i'w holi, ac meddai wrthynt, “Ai dyma'r hyn yr ydych yn ei drafod gyda'ch gilydd, fy mod i wedi dweud, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’?