15 Y mae pob peth sydd gan y Tad yn eiddo i mi. Dyna pam y dywedais ei fod yn cymryd o'r hyn sy'n eiddo i mi ac yn ei fynegi i chwi.
16 “Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i ddim mwy, ac ymhen ychydig wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld.”
17 Yna meddai rhai o'i ddisgyblion wrth ei gilydd, “Beth yw hyn y mae'n ei ddweud wrthym, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’, ac ‘Oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad’?
18 Beth,” meddent, “yw'r ‘ychydig amser’ yma y mae'n sôn amdano? Nid ydym yn deall am beth y mae'n siarad.”
19 Sylweddolodd Iesu eu bod yn awyddus i'w holi, ac meddai wrthynt, “Ai dyma'r hyn yr ydych yn ei drafod gyda'ch gilydd, fy mod i wedi dweud, ‘Ymhen ychydig amser, ni byddwch yn fy ngweld i, ac ymhen ychydig amser wedyn, fe fyddwch yn fy ngweld’?
20 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y byddwch chwi'n wylo ac yn galaru, a bydd y byd yn llawenhau. Byddwch chwi'n drist, ond fe droir eich tristwch yn llawenydd.
21 Y mae gwraig mewn poen wrth esgor, gan fod ei hamser wedi dod. Ond pan fydd y baban wedi ei eni, nid yw hi'n cofio'r gwewyr ddim mwy gan gymaint ei llawenydd fod plentyn wedi ei eni i'r byd.