23 Y dydd hwnnw ni byddwch yn holi dim arnaf. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.
24 Hyd yn hyn nid ydych wedi gofyn dim yn fy enw i. Gofynnwch, ac fe gewch, ac felly bydd eich llawenydd yn gyflawn.
25 “Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych ar ddamhegion. Y mae amser yn dod pan na fyddaf yn siarad wrthych ar ddamhegion ddim mwy, ond yn llefaru wrthych yn gwbl eglur am y Tad.
26 Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn fy enw i. Nid wyf yn dweud wrthych y byddaf fi'n gweddïo ar y Tad drosoch chwi,
27 oherwydd y mae'r Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i a chredu fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw.
28 Deuthum oddi wrth y Tad, ac yr wyf wedi dod i'r byd; bellach yr wyf yn gadael y byd eto ac yn mynd at y Tad.”
29 Meddai ei ddisgyblion ef, “Dyma ti yn awr yn siarad yn gwbl eglur; nid ar ddameg yr wyt yn llefaru mwyach.