24 Hyd yn hyn nid ydych wedi gofyn dim yn fy enw i. Gofynnwch, ac fe gewch, ac felly bydd eich llawenydd yn gyflawn.
25 “Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych ar ddamhegion. Y mae amser yn dod pan na fyddaf yn siarad wrthych ar ddamhegion ddim mwy, ond yn llefaru wrthych yn gwbl eglur am y Tad.
26 Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn fy enw i. Nid wyf yn dweud wrthych y byddaf fi'n gweddïo ar y Tad drosoch chwi,
27 oherwydd y mae'r Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i a chredu fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw.
28 Deuthum oddi wrth y Tad, ac yr wyf wedi dod i'r byd; bellach yr wyf yn gadael y byd eto ac yn mynd at y Tad.”
29 Meddai ei ddisgyblion ef, “Dyma ti yn awr yn siarad yn gwbl eglur; nid ar ddameg yr wyt yn llefaru mwyach.
30 Yn awr fe wyddom dy fod yn gwybod pob peth, ac nad oes arnat angen i neb dy holi. Dyna pam yr ydym yn credu dy fod wedi dod oddi wrth Dduw.”