26 Yn y dydd hwnnw, byddwch yn gofyn yn fy enw i. Nid wyf yn dweud wrthych y byddaf fi'n gweddïo ar y Tad drosoch chwi,
27 oherwydd y mae'r Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i a chredu fy mod i wedi dod oddi wrth Dduw.
28 Deuthum oddi wrth y Tad, ac yr wyf wedi dod i'r byd; bellach yr wyf yn gadael y byd eto ac yn mynd at y Tad.”
29 Meddai ei ddisgyblion ef, “Dyma ti yn awr yn siarad yn gwbl eglur; nid ar ddameg yr wyt yn llefaru mwyach.
30 Yn awr fe wyddom dy fod yn gwybod pob peth, ac nad oes arnat angen i neb dy holi. Dyna pam yr ydym yn credu dy fod wedi dod oddi wrth Dduw.”
31 Atebodd Iesu hwy, “A ydych yn credu yn awr?
32 Edrychwch, y mae amser yn dod, yn wir y mae wedi dod, pan gewch eich gwasgaru bob un i'w le ei hun, a'm gadael i ar fy mhen fy hun. Ac eto, nid wyf ar fy mhen fy hun, oherwydd y mae'r Tad gyda mi.