5 Ond yn awr, yr wyf yn mynd at yr hwn a'm hanfonodd i, ac eto nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, ‘Ble'r wyt ti'n mynd?’
6 Ond am fy mod wedi dweud hyn wrthych, daeth tristwch i lenwi eich calon.
7 Yr wyf fi'n dweud y gwir wrthych: y mae'n fuddiol i chwi fy mod i'n mynd ymaith. Oherwydd os nad af, ni ddaw'r Eiriolwr atoch chwi. Ond os af, fe'i hanfonaf ef atoch.
8 A phan ddaw, fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn;
9 ynglŷn â phechod am nad ydynt yn credu ynof fi;
10 ynglŷn â chyfiawnder oherwydd fy mod i'n mynd at y Tad, ac na chewch fy ngweld ddim mwy;
11 ynglŷn â barn am fod tywysog y byd hwn wedi cael ei farnu.