1 Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, cododd Iesu ei lygaid i'r nef a dywedodd: “O Dad, y mae'r awr wedi dod. Gogonedda dy Fab, er mwyn i'r Mab dy ogoneddu di.
2 Oherwydd rhoddaist iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti wedi eu rhoi iddo ef.
3 A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
4 Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i'w wneud.