3 A hyn yw bywyd tragwyddol: dy adnabod di, yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist.
4 Yr wyf fi wedi dy ogoneddu ar y ddaear trwy orffen y gwaith a roddaist imi i'w wneud.
5 Yn awr, O Dad, gogonedda di fyfi ger dy fron dy hun â'r gogoniant oedd i mi ger dy fron cyn bod y byd.
6 “Yr wyf wedi amlygu dy enw i'r rhai a roddaist imi allan o'r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe'u rhoddaist i mi. Y maent wedi cadw dy air di.
7 Y maent yn gwybod yn awr mai oddi wrthyt ti y mae popeth a roddaist i mi.
8 Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a'm hanfonodd i.
9 Drostynt hwy yr wyf fi'n gweddïo. Nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist imi, oherwydd eiddot ti ydynt.