13 Aethant ag ef at Annas yn gyntaf. Ef oedd tad-yng-nghyfraith Caiaffas, a oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno.
14 Caiaffas oedd y dyn a gynghorodd yr Iddewon mai mantais fyddai i un dyn farw dros y bobl.
15 Yr oedd Simon Pedr yn canlyn Iesu, a disgybl arall hefyd. Yr oedd y disgybl hwn yn adnabyddus i'r archoffeiriad, ac fe aeth i mewn gyda Iesu i gyntedd yr archoffeiriad,
16 ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn.
17 A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau.
18 A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.
19 Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth.