16 ond safodd Pedr wrth y drws y tu allan. Felly aeth y disgybl arall, yr un oedd yn adnabyddus i'r archoffeiriad, allan a siarad â'r forwyn oedd yn cadw'r drws, a daeth â Pedr i mewn.
17 A dyma'r forwyn oedd yn cadw'r drws yn dweud wrth Pedr, “Tybed a wyt tithau'n un o ddisgyblion y dyn yma?” “Nac ydwyf,” atebodd yntau.
18 A chan ei bod yn oer, yr oedd y gweision a'r swyddogion wedi gwneud tân golosg, ac yr oeddent yn sefyll yn ymdwymo wrtho. Ac yr oedd Pedr yntau yn sefyll gyda hwy yn ymdwymo.
19 Yna holodd yr archoffeiriad Iesu am ei ddisgyblion ac am ei ddysgeidiaeth.
20 Atebodd Iesu ef: “Yr wyf fi wedi siarad yn agored wrth y byd. Yr oeddwn i bob amser yn dysgu mewn synagog ac yn y deml, lle y bydd yr Iddewon i gyd yn ymgynnull; nid wyf wedi siarad dim yn y dirgel.
21 Pam yr wyt yn fy holi i? Hola'r rhai sydd wedi clywed yr hyn a leferais wrthynt. Dyma'r sawl sy'n gwybod beth a ddywedais i.”
22 Pan ddywedodd hyn, rhoddodd un o'r swyddogion oedd yn sefyll yn ei ymyl gernod i Iesu, gan ddweud, “Ai felly yr wyt yn ateb yr archoffeiriad?”