24 Yna anfonodd Annas ef, wedi ei rwymo, at Caiaffas, yr archoffeiriad.
25 Yr oedd Simon Pedr yn sefyll yno yn ymdwymo. Meddent wrtho felly, “Tybed a wyt tithau'n un o'i ddisgyblion?” Gwadodd yntau: “Nac ydwyf,” meddai.
26 Dyma un o weision yr archoffeiriad, perthynas i'r un y torrodd Pedr ei glust i ffwrdd, yn gofyn iddo, “Oni welais i di yn yr ardd gydag ef?”
27 Yna gwadodd Pedr eto. Ac ar hynny, canodd y ceiliog.
28 Aethant â Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg.
29 Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, “Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?”
30 Atebasant ef, “Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti.”