28 Aethant â Iesu oddi wrth Caiaffas i'r Praetoriwm. Yr oedd yn fore. Nid aeth yr Iddewon eu hunain i mewn i'r Praetoriwm, rhag iddynt gael eu halogi, er mwyn gallu bwyta gwledd y Pasg.
29 Am hynny, daeth Pilat allan atynt hwy, ac meddai, “Beth yw'r cyhuddiad yr ydych yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn?”
30 Atebasant ef, “Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti.”
31 Yna dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain.” Meddai'r Iddewon wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth.”
32 Felly cyflawnwyd y gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.
33 Yna, aeth Pilat i mewn i'r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?”
34 Atebodd Iesu, “Ai ohonot dy hun yr wyt ti'n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?”