30 Atebasant ef, “Oni bai fod hwn yn droseddwr, ni buasem wedi ei drosglwyddo i ti.”
31 Yna dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch chwi ef, a barnwch ef yn ôl eich Cyfraith eich hunain.” Meddai'r Iddewon wrtho, “Nid yw'n gyfreithlon i ni roi neb i farwolaeth.”
32 Felly cyflawnwyd y gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.
33 Yna, aeth Pilat i mewn i'r Praetoriwm eto. Galwodd Iesu, ac meddai wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?”
34 Atebodd Iesu, “Ai ohonot dy hun yr wyt ti'n dweud hyn, ai ynteu eraill a ddywedodd hyn wrthyt amdanaf fi?”
35 Atebodd Pilat, “Ai Iddew wyf fi? Dy genedl dy hun a'i phrif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth wnaethost ti?”
36 Atebodd Iesu, “Nid yw fy nheyrnas i o'r byd hwn. Pe bai fy nheyrnas i o'r byd hwn, byddai fy ngwasanaethwyr i yn ymladd, rhag imi gael fy nhrosglwyddo i'r Iddewon. Ond y gwir yw, nid dyma darddle fy nheyrnas i.”