13 Pan glywodd Pilat y geiriau hyn, daeth â Iesu allan, ac eisteddodd ar y brawdle yn y lle a elwir Y Palmant (yn iaith yr Iddewon, Gabbatha).
14 Dydd Paratoad y Pasg oedd hi, tua hanner dydd. A dywedodd Pilat wrth yr Iddewon, “Dyma eich brenin.”
15 Gwaeddasant hwythau, “Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croeshoelia ef.” Meddai Pilat wrthynt, “A wyf i groeshoelio eich brenin chwi?” Atebodd y prif offeiriaid, “Nid oes gennym frenin ond Cesar.”
16 Yna traddododd Pilat Iesu iddynt i'w groeshoelio.Felly cymerasant Iesu.
17 Ac aeth allan, gan gario'i groes ei hun, i'r man a elwir Lle Penglog (yn iaith yr Iddewon fe'i gelwir Golgotha).
18 Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gydag ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol.
19 Ysgrifennodd Pilat deitl, a'i osod ar y groes; dyma'r hyn a ysgrifennwyd: “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.”