1 Y trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam Iesu yno.
2 Gwahoddwyd Iesu hefyd, a'i ddisgyblion, i'r briodas.
3 Pallodd y gwin, ac meddai mam Iesu wrtho ef, “Nid oes ganddynt win.”
4 Dywedodd Iesu wrthi hi, “Wraig, beth sydd a fynni di â mi? Nid yw f'awr i wedi dod eto.”
5 Dywedodd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Gwnewch beth bynnag a ddywed wrthych.”
6 Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal dŵr, wedi eu gosod ar gyfer defod glanhad yr Iddewon, a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni.