13 Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem.
14 A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau.
15 Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian mân y cyfnewidwyr ar chwâl, a bwrw eu byrddau wyneb i waered.
16 Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, “Ewch â'r rhain oddi yma. Peidiwch â gwneud tŷ fy Nhad i yn dŷ masnach.”
17 Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: “Bydd sêl dros dy dŷ di yn fy ysu.”
18 Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, “Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?”
19 Atebodd Iesu hwy: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi.”