5 Dywedodd ei fam wrth y gwasanaethyddion, “Gwnewch beth bynnag a ddywed wrthych.”
6 Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal dŵr, wedi eu gosod ar gyfer defod glanhad yr Iddewon, a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni.
7 Dywedodd Iesu wrthynt, “Llanwch y llestri â dŵr,” a llanwasant hwy hyd yr ymyl.
8 Yna meddai wrthynt, “Yn awr tynnwch beth allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd.” A gwnaethant felly.
9 Profodd llywydd y wledd y dŵr, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r dŵr yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab
10 ac meddai wrtho, “Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr.”
11 Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o'i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.