10 Meddai Iesu wrthynt, “Dewch â rhai o'r pysgod yr ydych newydd eu dal.”
11 Dringodd Simon Pedr i'r cwch, a thynnu'r rhwyd i'r lan yn llawn o bysgod braf, cant pum deg a thri ohonynt. Ac er bod cymaint ohonynt, ni thorrodd y rhwyd.
12 “Dewch,” meddai Iesu wrthynt, “cymerwch frecwast.” Ond nid oedd neb o'r disgyblion yn beiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” Yr oeddent yn gwybod mai yr Arglwydd ydoedd.
13 Daeth Iesu atynt, a chymerodd y bara a'i roi iddynt, a'r pysgod yr un modd.
14 Dyma, yn awr, y drydedd waith i Iesu ymddangos i'w ddisgyblion ar ôl iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw.
15 Yna, wedi iddynt gael brecwast, gofynnodd Iesu i Simon Pedr, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i yn fwy na'r rhain?” Atebodd ef, “Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Portha fy ŵyn.”
16 Wedyn gofynnodd iddo yr ail waith, “Simon fab Ioan, a wyt ti'n fy ngharu i?” “Ydwyf, Arglwydd,” meddai Pedr wrtho, “fe wyddost ti fy mod yn dy garu di.” Meddai Iesu wrtho, “Bugeilia fy nefaid.”