22 Ar ôl hyn aeth Iesu a'i ddisgyblion i wlad Jwdea, a bu'n aros yno gyda hwy ac yn bedyddio.
23 Yr oedd Ioan yntau yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, am fod digonedd o ddŵr yno; ac yr oedd pobl yn dod yno ac yn cael eu bedyddio.
24 Nid oedd Ioan eto wedi ei garcharu.
25 Yna cododd dadl rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a rhyw Iddew ynghylch defod glanhad.
26 Daethant at Ioan a dweud wrtho, “Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef.”
27 Atebodd Ioan: “Ni all neb dderbyn un dim os nad yw wedi ei roi iddo o'r nef.
28 Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, ‘Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.’