24 Nid oedd Ioan eto wedi ei garcharu.
25 Yna cododd dadl rhwng rhai o ddisgyblion Ioan a rhyw Iddew ynghylch defod glanhad.
26 Daethant at Ioan a dweud wrtho, “Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef.”
27 Atebodd Ioan: “Ni all neb dderbyn un dim os nad yw wedi ei roi iddo o'r nef.
28 Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, ‘Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.’
29 Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder.
30 Y mae'n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.”