26 Daethant at Ioan a dweud wrtho, “Rabbi, y dyn hwnnw oedd gyda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, yr un yr wyt ti wedi dwyn tystiolaeth iddo, edrych, y mae ef yn bedyddio a phawb yn dod ato ef.”
27 Atebodd Ioan: “Ni all neb dderbyn un dim os nad yw wedi ei roi iddo o'r nef.
28 Yr ydych chwi eich hunain yn dystion i mi, imi ddweud, ‘Nid myfi yw'r Meseia; un wedi ei anfon o'i flaen ef wyf fi.’
29 Y priodfab yw'r hwn y mae'r briodferch ganddo; y mae cyfaill y priodfab, sydd wrth ei ochr ac yn gwrando arno, yn fawr ei lawenydd wrth glywed llais y priodfab. Dyma fy llawenydd i yn ei gyflawnder.
30 Y mae'n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau.”
31 Y mae'r hwn sy'n dod oddi uchod goruwch pawb; y mae'r hwn sydd o'r ddaear yn ddaearol ei anian ac yn ddaearol ei iaith. Y mae'r sawl sy'n dod o'r nef goruwch pawb;
32 y mae'n tystiolaethu am yr hyn a welodd ac a glywodd, ond nid yw neb yn derbyn ei dystiolaeth.