21 Oherwydd fel y mae'r Tad yn codi'r meirw ac yn rhoi bywyd iddynt, felly hefyd y mae'r Mab yntau yn rhoi bywyd i'r sawl a fyn.
22 Nid yw'r Tad chwaith yn barnu neb, ond y mae wedi rhoi pob hawl i farnu i'r Mab,
23 er mwyn i bawb roi i'r Mab yr un parch ag a rônt i'r Tad. O beidio â pharchu'r Mab, y mae rhywun yn peidio â pharchu'r Tad a'i hanfonodd ef.
24 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y sawl sy'n gwrando ar fy ngair i, ac yn credu'r hwn a'm hanfonodd i, yn meddu ar fywyd tragwyddol. Nid yw'n dod dan gondemniad; i'r gwrthwyneb, y mae wedi croesi o farwolaeth i fywyd.
25 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y meirw yn clywed llais Mab Duw, a'r rhai sy'n clywed yn cael bywyd.
26 Oherwydd fel y mae gan y Tad fywyd ynddo ef ei hun, felly hefyd rhoddodd i'r Mab gael bywyd ynddo ef ei hun.
27 Rhoddodd iddo hefyd awdurdod i weinyddu barn, am mai Mab y Dyn yw ef.