43 Yr wyf fi wedi dod yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i; os daw rhywun arall yn ei enw ei hun, fe dderbyniwch hwnnw.
44 Sut y gallwch gredu, a chwithau yn derbyn clod gan eich gilydd a heb geisio'r clod sydd gan yr unig Dduw i'w roi?
45 Peidiwch â meddwl mai myfi fydd yn dwyn cyhuddiad yn eich erbyn gerbron y Tad. Moses yw'r un sydd yn eich cyhuddo, hwnnw yr ydych chwi wedi rhoi eich gobaith arno.
46 Pe baech yn credu Moses byddech yn fy nghredu i, oherwydd amdanaf fi yr ysgrifennodd ef.
47 Ond os nad ydych yn credu'r hyn a ysgrifennodd ef, sut yr ydych i gredu'r hyn yr wyf fi'n ei ddweud?”