7 Atebodd y claf ef, “Syr, nid oes gennyf neb i'm gosod yn y pwll pan ddaw cynnwrf i'r dŵr, a thra byddaf fi ar fy ffordd bydd rhywun arall yn mynd i mewn o'm blaen i.”
8 Meddai Iesu wrtho, “Cod, cymer dy fatras a cherdda.”
9 Ac ar unwaith yr oedd y dyn wedi gwella, a chymerodd ei fatras a dechrau cerdded.Yr oedd yn Saboth y dydd hwnnw.
10 Dywedodd yr Iddewon felly wrth y dyn oedd wedi ei iacháu, “Y Saboth yw hi; nid yw'n gyfreithlon iti gario dy fatras.”
11 Atebodd yntau hwy, “Y dyn hwnnw a'm gwellodd a ddywedodd wrthyf, ‘Cymer dy fatras a cherdda.’ ”
12 Gofynasant iddo, “Pwy yw'r dyn a ddywedodd wrthyt, ‘Cymer dy fatras a cherdda’?”
13 Ond nid oedd y dyn a iachawyd yn gwybod pwy oedd ef, oherwydd yr oedd Iesu wedi troi oddi yno, am fod tyrfa yn y lle.