1 Wrth fynd ar ei daith, gwelodd Iesu ddyn dall o'i enedigaeth.
2 Gofynnodd ei ddisgyblion iddo, “Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn ynteu ei rieni, i beri iddo gael ei eni'n ddall?”
3 Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef.
4 Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio.