20 Atebodd ei rieni, “Fe wyddom mai hwn yw ein mab a'i fod wedi ei eni'n ddall.
21 Ond ni wyddom sut y mae'n gweld yn awr, ac ni wyddom pwy a agorodd ei lygaid. Gofynnwch iddo ef. Y mae'n ddigon hen. Caiff ateb drosto'i hun.”
22 Atebodd ei rieni fel hyn am fod arnynt ofn yr Iddewon, oherwydd yr oedd yr Iddewon eisoes wedi cytuno bod unrhyw un a fyddai'n cyffesu Iesu fel Meseia i gael ei dorri allan o'r synagog.
23 Dyna pam y dywedodd ei rieni, “Y mae'n ddigon hen. Gofynnwch iddo ef.”
24 Yna galwasant atynt am yr ail waith y dyn a fu'n ddall, ac meddent wrtho, “Dywed y gwir gerbron Duw. Fe wyddom ni mai pechadur yw'r dyn hwn.”
25 Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.”
26 Meddent wrtho, “Beth wnaeth ef iti? Sut yr agorodd ef dy lygaid di?”