25 Atebodd yntau, “Ni wn i a yw'n bechadur ai peidio. Un peth a wn i: roeddwn i'n ddall, ac yn awr rwyf yn gweld.”
26 Meddent wrtho, “Beth wnaeth ef iti? Sut yr agorodd ef dy lygaid di?”
27 Atebodd hwy, “Rwyf wedi dweud wrthych eisoes, ond nid ydych wedi gwrando. Pam yr ydych mor awyddus i glywed y peth eto? Does bosibl eich bod chwi hefyd yn awyddus i fod yn ddisgyblion iddo?”
28 Ar hyn, dyma hwy'n ei ddifrïo ac yn dweud wrtho, “Ti sy'n ddisgybl i'r dyn. Disgyblion Moses ydym ni.
29 Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod.”
30 Atebodd y dyn hwy, “Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i.
31 Fe wyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond ei fod yn gwrando ar unrhyw un sy'n dduwiol ac yn gwneud ei ewyllys ef.