29 Fe wyddom fod Duw wedi llefaru wrth Moses, ond am y dyn hwn, ni wyddom o ble y mae wedi dod.”
30 Atebodd y dyn hwy, “Y peth rhyfedd yw hyn, na wyddoch chwi o ble y mae wedi dod, ac eto fe agorodd ef fy llygaid i.
31 Fe wyddom nad yw Duw yn gwrando ar bechaduriaid, ond ei fod yn gwrando ar unrhyw un sy'n dduwiol ac yn gwneud ei ewyllys ef.
32 Ni chlywyd erioed fod neb wedi agor llygaid rhywun oedd wedi ei eni'n ddall.
33 Oni bai fod y dyn hwn o Dduw, ni allai wneud dim.”
34 Atebodd y Phariseaid ef, “Fe'th aned di yn gyfan gwbl mewn pechod, ac a wyt ti yn ein dysgu ni?” Yna taflasant ef allan.
35 Clywodd Iesu eu bod wedi ei daflu allan, a phan gafodd hyd iddo gofynnodd iddo, “A wyt ti'n credu ym Mab y Dyn?”