3 Atebodd Iesu, “Ni phechodd hwn na'i rieni chwaith, ond fe amlygir gweithredoedd Duw ynddo ef.
4 Y mae'n rhaid i ni gyflawni gweithredoedd yr hwn a'm hanfonodd i tra mae hi'n ddydd. Y mae'r nos yn dod, pan na all neb weithio.
5 Tra byddaf yn y byd, goleuni'r byd ydwyf.”
6 Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai,
7 ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld.
8 Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, “Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?”
9 Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.”