6 Wedi dweud hyn poerodd ar y llawr a gwneud clai o'r poeryn; yna irodd lygaid y dyn â'r clai,
7 ac meddai wrtho, “Dos i ymolchi ym mhwll Siloam” (enw a gyfieithir Anfonedig). Aeth y dyn yno ac ymolchi, a phan ddaeth yn ôl yr oedd yn gweld.
8 Dyma'i gymdogion, felly, a'r bobl oedd wedi arfer o'r blaen ei weld fel cardotyn, yn dweud, “Onid hwn yw'r dyn fyddai'n eistedd i gardota?”
9 Meddai rhai, “Hwn yw ef.” “Na,” meddai eraill, “ond y mae'n debyg iddo.” Ac meddai'r dyn ei hun, “Myfi yw ef.”
10 Gofynasant iddo felly, “Sut yr agorwyd dy lygaid di?”
11 Atebodd yntau, “Y dyn a elwir Iesu a wnaeth glai ac iro fy llygaid a dweud wrthyf, ‘Dos i Siloam i ymolchi.’ Ac wedi imi fynd yno ac ymolchi, cefais fy ngolwg.”
12 Gofynasant iddo, “Ble mae ef?” “Ni wn i,” meddai yntau.