1 “Ond pan aeth fy mab i mewn i'w ystafell briodas, syrthiodd yn farw.
2 Diffoddasom bawb ei lamp, a chododd fy nghymdogion oll i'm cysuro; arhosais innau'n dawel hyd nos drannoeth.
3 Wedi iddynt hwy oll roi'r gorau i'w cais i'm cysuro a'm cadw'n dawel, codais liw nos a ffoi, a dod, fel y gweli, i'r maes hwn.
4 A'm bwriad yw peidio â dychwelyd mwyach i'r ddinas, ond aros yma, heb fwyta nac yfed, a galaru ac ymprydio yn ddi-baid hyd angau.”
5 Yna torrais ar draws dilyniant fy myfyrdodau, ac atebais hi yn ddig fel hyn:
6 “Ti, y ffolaf o'r holl wragedd, onid wyt yn gweld ein galar ni, a'r pethau sydd wedi digwydd inni?
7 Y mae Seion, ein mam ni oll, yn llawn tristwch ac wedi ei llwyr ddarostwng; am hynny y dylid galaru'n ddwys.