2 Esdras 14 BCND

1 Y trydydd dydd yr oeddwn yn eistedd dan dderwen,

2 a dyma lais yn dod allan o berth gyferbyn â mi, a dweud, “Esra, Esra!” Atebais innau, “Dyma fi, Arglwydd.” Codais ar fy nhraed, ac meddai ef wrthyf:

3 “Fe'm datguddiais fy hun yn eglur yn y berth, a bûm yn siarad â Moses, pan oedd fy mhobl yn gaethweision yn yr Aifft;

4 anfonais ef i arwain fy mhobl allan o'r Aifft, a dygais ef i fyny i Fynydd Sinai, a'i gadw yno gyda mi am ddyddiau lawer.

5 Mynegais iddo lawer o bethau rhyfeddol, gan ddangos iddo gyfrinachau'r oesau a diwedd yr amseroedd. Rhoddais orchymyn iddo fel hyn:

6 ‘Gwna'r geiriau hyn yn hysbys, a chadw'r lleill yn gyfrinach.’

7 Ac yn awr dyma fy ngorchymyn i ti:

8 cadw'n ddiogel yn dy galon yr arwyddion a ddangosais iti, y breuddwydion a gefaist, a'r dehongliadau a glywaist.

9 Oherwydd fe'th ddygir di ymaith o blith dynion, ac o hynny ymlaen byddi'n aros gyda'm mab i a chyda rhai tebyg i ti, hyd ddiwedd yr amseroedd.

10 Oherwydd y mae'r byd wedi colli ei ieuenctid, ac y mae'r amseroedd yn dechrau heneiddio.

11 Y mae oes y byd wedi ei rhannu'n ddeuddeg rhan, ac eisoes aeth naw o'r rhannau hynny heibio, a hanner y ddegfed ran;

12 nid oes ond dwy ran ohoni'n aros, ynghyd â hanner arall y ddegfed ran.

13 Yn awr, felly, gosod dy dŷ mewn trefn; rhybuddia dy bobl, rho gysur i'r rhai gostyngedig yn eu mysg, ac ymwâd bellach â'r bywyd llygradwy.

14 Bwrw ymaith oddi wrthyt feddyliau meidrol, a thafl i ffwrdd oddi wrthyt dy feichiau dynol;

15 yn awr diosg oddi amdanat dy natur wan, gosod o'r neilltu y pryderon sy'n pwyso drymaf arnat, a brysia i ffoi rhag yr amseroedd hyn.

16 Oherwydd er mor fawr y drygau a welaist eisoes, y mae rhai gwaeth i ddigwydd ar ôl hyn.

17 Oherwydd po fwyaf y bydd henaint yn gwanychu'r byd, amlaf y drygau a ddaw ar ei drigolion.

18 Bydd gwirionedd yn cilio draw, ac anwiredd yn agosáu. Oherwydd y mae'r eryr a welaist yn dy freuddwyd eisoes yn dod ar frys.”

Esra'n Ysgrifennu

19 Atebais innau fel hyn: “A gaf fi siarad yn dy wyddfod, Arglwydd? Dyma fi ar fin ymadael, yn unol â'th orchymyn; fe geryddaf fi y bobl sydd yn awr yn fyw, ond pwy sydd i rybuddio'r rhai a enir ar ôl hyn?

20 Y mae'r byd yn gorwedd mewn tywyllwch, ac y mae ei drigolion heb oleuni.

21 Oherwydd y mae dy gyfraith di wedi ei llosgi, ac felly ni ŵyr neb am y gweithredoedd a gyflawnwyd gennyt neu sydd eto i'w cyflawni.

22 Felly, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dyro ysbryd sanctaidd o'm mewn, ac ysgrifennaf holl hanes y byd o'r dechreuad, a'r pethau oedd yn ysgrifenedig yn dy gyfraith di; felly bydd yn bosibl i ddynion ddarganfod y llwybr, a chael byw, os dymunant hynny, yn yr amseroedd diwethaf.”

23 Atebodd ef fi fel hyn: “Dos, galw'r bobl ynghyd, a dywed wrthynt nad ydynt i chwilio amdanat am ddeugain diwrnod.

24 Ond darpara di lawer o dabledi ysgrifennu, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemia, Ethanus ac Asiel—pump a hyfforddwyd i ysgrifennu'n gyflym.

25 Wedyn tyrd yma, a chyneuaf yn dy feddwl lusern deall, ac ni ddiffoddir hi nes cwblhau'r cyfan yr wyt i'w ysgrifennu.

26 A phan fyddi wedi gorffen, gelli wneud rhai pethau'n hysbys i bawb, ond cyflwyno eraill yn gyfrinachol i'r doethion. Y pryd hwn yfory cei ddechrau ysgrifennu.”

27 Euthum allan, fel y gorchmynnodd ef imi, a galw'r holl bobl ynghyd, a dweud:

28 “Clyw, Israel, y geiriau hyn.

29 Estroniaid yn byw yn yr Aifft oedd ein hynafiaid ni yn wreiddiol. Gwaredwyd hwy oddi yno,

30 a derbyniasant gyfraith bywyd. Ond ni chadwasant hi, ac yr ydych chwi hefyd ar eu hôl wedi troseddu.

31 Yna rhoddwyd i chwi wlad yn etifeddiaeth, yn nhiriogaeth Seion; ond pechu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, heb gadw'r ffyrdd a bennodd y Goruchaf ichwi.

32 Am ei fod ef yn farnwr cyfiawn, ymhen amser fe dynnodd yn ôl oddi wrthych yr hyn yr oedd wedi ei roi.

33 Ac yn awr yr ydych chwi yma, yn alltud, ac y mae'ch tylwyth ymhellach i ffwrdd na chwi

34 Felly, os cadwch reolaeth ar eich deall a disgyblu eich meddwl, fe'ch cedwir yn ddiogel yn ystod eich bywyd, ac fe dderbyniwch drugaredd ar ôl marw.

35 Oherwydd bydd y farn yn dilyn marwolaeth; byddwn ninnau'n dod yn fyw drachefn, ac yna daw enwau'r rhai cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn amlwg.

36 Ond peidied neb â dod ataf yn awr, na'm ceisio am y deugain diwrnod nesaf.”

37 Yna cymerais y pum dyn, fel y gorchmynnwyd imi, ac aethom allan i'r maes ac aros yno.

38 A'r dydd canlynol, dyma lais yn galw arnaf a dweud, “Esra, agor dy enau ac yf yr hyn yr wyf yn ei roi i ti i'w yfed.”

39 Felly agorais fy ngenau, a dyma estyn imi gwpan yn llawn o rywbeth tebyg i ddŵr, ond bod ei liw fel lliw tân.

40 Cymerais ef ac yfed, a chyn gynted ag y gwneuthum hynny dyma fy meddwl yn dylifo â dealltwriaeth, a doethineb yn mynd ar gynnydd o'm mewn; oherwydd ni chollodd cyneddfau fy ysbryd afael ar y cof.

41 Felly agorwyd fy ngenau, ac nis caewyd wedyn.

42 Hefyd rhoddodd y Goruchaf ddeall i'r pum dyn, ac ysgrifenasant hwy yn eu trefn y pethau a ddywedwyd, gan ddefnyddio llythrennau heb fod yn wybyddus iddynt; yno y buont am y deugain diwrnod, yn ysgrifennu trwy'r dydd,

43 ac yn bwyta bara gyda'r nos. A minnau, yr oeddwn yn llefaru y dydd, ac nid oeddwn yn ddistaw y nos.

44 Yn y deugain diwrnod fe ysgrifennwyd naw deg a phedwar o lyfrau.

45 A phan gwblhawyd y deugain diwrnod, siaradodd y Goruchaf â mi fel hyn: “Gwna'n hysbys y llyfrau cyntaf a ysgrifennaist, a gad i'r rhai teilwng a'r annheilwng fel ei gilydd eu darllen,

46 ond cadw'n ôl y saith deg olaf, i'w cyflwyno i'r doethion ymhlith dy bobl.

47 Oherwydd ynddynt hwy y mae ffrwd deall, ffynnon doethineb, ac afon gwybodaeth.”

48 A gwneuthum felly.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16