1 Ail lyfr y proffwyd Esra fab Saraias, fab Asarias, fab Helcias, fab Salum, fab Sadoc, fab Ahitob,
2 fab Achias, fab Phinees, fab Heli, fab Amarias, fab Asias, fab Marimoth, fab Arna, fab Osias, fab Borith, fab Abiswa, fab Phinees, fab Eleasar,
3 fab Aaron, o lwyth Lefi. Yr oedd ef mewn caethiwed yn nhiriogaeth y Mediaid, yn ystod teyrnasiad Artaxerxes brenin y Persiaid.
4 Daeth gair yr Arglwydd ataf fi fel hyn:
5 “Dos at fy mhobl a chyhoedda wrthynt eu troseddau; dywed wrth eu plant am y camweddau y maent wedi eu cyflawni yn fy erbyn i, er mwyn iddynt hwythau gyhoeddi wrth blant eu plant
6 fod pechodau eu rhieni wedi cynyddu fwyfwy ynddynt hwy, am iddynt fy anghofio i ac aberthu i dduwiau dieithr.
7 Onid myfi a'u dug hwy allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed? Eto i gyd, y maent wedi ennyn fy nicter ac wedi diystyru fy nghynghorion.
8 Ond tydi, tyn allan wallt dy ben, a hyrddia bob drwg arnynt, am iddynt anufuddhau i'm cyfraith i. Y fath bobl ddiddisgyblaeth!
9 Pa hyd y goddefaf hwy, a minnau wedi rhoi cynifer o freintiau iddynt?
10 Yr wyf wedi dymchwelyd llawer o frenhinoedd er eu mwyn; trewais i lawr Pharo a'i weision, ynghyd â'i holl fyddin.
11 Difethais yr holl genhedloedd o'u blaen, ac yn y dwyrain gwasgerais bobl y ddwy dalaith, Tyrus a Sidon; lleddais bob un a'u gwrthwynebai.
12 “Llefara di wrthynt fel hyn. Dyma eiriau'r Arglwydd:
13 Fel y gŵyr pawb, myfi a'ch dug chwi trwy'r môr, a phalmantu ffyrdd eang ichwi lle na bu ffordd o'r blaen; rhoddais Moses yn arweinydd ichwi ac Aaron yn offeiriad;
14 darperais golofn o dân i roi goleuni ichwi, a gwneuthum ryfeddodau mawr yn eich plith. Ond chwithau, yr ydych wedi fy anghofio i, medd yr Arglwydd.
15 “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Cawsoch soflieir yn arwydd ichwi, a rhoddais wersyll yn amddiffyn ichwi; ond grwgnach a wnaethoch yno,
16 nid gorfoleddu yn fy enw i am i'ch gelynion gael eu difetha; yn wir yr ydych yn parhau i rwgnach hyd y dydd heddiw.
17 Ble bellach y mae'r breintiau a ddarperais ar eich cyfer? Pan oedd newyn a syched arnoch yn yr anialwch, oni waeddasoch arnaf
18 fel hyn: ‘Pam yr wyt ti wedi ein dwyn ni i'r anialwch hwn i'n lladd? Buasai'n well i ni fod yn gaethweision i'r Eifftiaid na marw yn yr anialwch hwn.’
19 Yr oedd yn ofidus gennyf am eich cwynion, a rhoddais ichwi fanna yn ymborth; bwytasoch fara angylion. Pan oedd syched arnoch, oni holltais i'r graig, a dyna ddigonedd o ddŵr yn llifo allan?
20 Ac oherwydd y gwres rhoddais ddail y coed yn gysgod ichwi.
21 Rhennais diroedd ffrwythlon rhyngoch, gan fwrw allan y Canaaneaid, y Pheresiaid a'r Philistiaid o'ch blaen. Beth arall a allaf ei wneud er eich mwyn?” medd yr Arglwydd.
22 “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Pan oeddech yn yr anialwch, yn sychedu wrth yr afon chwerw ac yn fy nghablu,
23 nid anfon tân arnoch am eich cableddau a wneuthum, ond bwrw pren i'r dŵr a melysu'r afon.
24 Beth a wnaf â thi, Jacob, â thi, Jwda, na fynnaist ufuddhau i mi? Fe drof at genhedloedd eraill, a rhoddaf fy enw iddynt, er mwyn iddynt hwy gael cadw fy neddfau.
25 Gan i chwi fy ngadael i, fe'ch gadawaf finnau chwithau; pan ymbiliwch arnaf am drugaredd, ni thrugarhaf wrthych.
26 Pan alwch arnaf, ni wrandawaf arnoch; oherwydd yr ydych wedi difwyno eich dwylo â gwaed, ac yr ydych yn chwim eich troed i gyflawni llofruddiaeth.
27 Nid arnaf fi, fel petai, ond arnoch chwi eich hunain yr ydych wedi cefnu,” medd yr Arglwydd.
28 “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Onid wyf fi wedi ymhŵedd arnoch, fel tad ar ei feibion, neu fam ar ei merched, neu famaeth ar ei babanod,
29 ar i chwi fod yn bobl i mi, ac i minnau fod yn Dduw i chwithau; ar i chwi fod yn blant i mi, ac i minnau fod yn dad i chwithau?
30 Felly, fe'ch cesglais chwi ynghyd fel y mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd. Ond beth a wnaf â chwi yn awr? Bwriaf chwi allan o'm gŵydd.
31 Pan ddygwch offrymau i mi, trof fy wyneb oddi wrthych; oherwydd yr wyf wedi gwrthod eich dyddiau gŵyl, eich newydd-loerau, a'ch enwaediadau ar y cnawd.
32 Anfonais atoch fy ngweision y proffwydi, ond yr hyn a wnaethoch chwi oedd eu cymryd hwy a'u lladd, a darnio eu cyrff; mynnaf gael cyfrif am eu gwaed hwy,” medd yr Arglwydd.
33 “Dyma eiriau'r Arglwydd Hollalluog: Y mae eich tŷ chwi wedi ei adael yn anghyfannedd; fe'ch lluchiaf chwi ymaith, fel gwynt yn lluchio gwellt.
34 Ni chaiff eich plant genhedlu, am iddynt, fel chwithau, ddiystyru fy ngorchymyn a gwneud yr hyn sydd ddrwg yn fy ngolwg.
35 Trosglwyddaf eich tai chwi i bobl sydd i ddod, pobl a gred er na chlywsant fi, pobl a geidw fy ngorchmynion er na roddais arwyddion iddynt.
36 Er na welsant y proffwydi, eto i gyd fe gofiant eiriau proffwydi'r dyddiau gynt.
37 Yr wyf yn galw yn dyst ddiolchgarwch y bobl sydd i ddod; bydd eu plant bychain yn neidio gan lawenydd, ac er na chânt fy ngweld â'u llygaid naturiol, eto trwy'r ysbryd fe gredant fy ngeiriau.
38 “Ac yn awr, dad, edrych â gorfoledd, a gwêl y bobl sydd i ddod o'r dwyrain.
39 Rhoddaf yn arweinwyr iddynt Abraham, Isaac a Jacob, Hosea ac Amos, Micha a Joel, Obadeia a Jona,
40 Nahum a Habacuc, Seffaneia, Haggai, Sechareia a Malachi, a alwyd hefyd yn Negesydd yr Arglwydd.”