1 Esdras 9 BCND

1 Yna cododd Esra ac aeth o gyntedd y deml i ystafell Joanan fab Eliasibus,

2 ac aros yno heb fwyta bara nac yfed dŵr, am ei fod yn dal i alaru am gamweddau mawr y gynulleidfa.

3 Yna gwnaethpwyd cyhoeddiad yn holl Jwda a Jerwsalem fod pawb a ddychwelodd o'r gaethglud i ymgynnull yn Jerwsalem,

4 a bod pwy bynnag na ddôi i'r cyfarfod o fewn deuddydd neu dri, ar wŷs yr henuriaid llywodraethol, i fforffedu ei anifeiliaid at wasanaeth y deml, ac yntau ei hun i'w dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.

5 O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd pobl llwyth Jwda a Benjamin i Jerwsalem,

6 ac eisteddodd yr holl gynulleidfa ar y sgwâr o flaen y deml, yn rhynnu oherwydd ei bod bellach yn aeaf.

7 Cododd Esra a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi torri'r gyfraith trwy briodi merched estron ac ychwanegu at bechod Israel.

8 Yn awr gwnewch gyffes, a rhowch ogoniant i Arglwydd Dduw ein hynafiaid;

9 gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth y brodorion a'ch gwragedd estron.”

10 Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn yn union fel yr wyt ti wedi gorchymyn.

11 Ond y mae'r gynulleidfa'n niferus a'r tywydd yn aeafol, ac ni allwn sefyll yma yn yr awyr agored; y mae'n amhosibl. Nid gwaith diwrnod neu ddau yw hyn i ni, oherwydd y mae gormod ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

12 Bydded i arweinwyr y gynulleidfa aros yma, ac i'r holl rai yn ein gwladfeydd sydd wedi priodi gwragedd estron ddod ar amser penodedig,

13 pob un gyda henuriaid a barnwyr ei le ei hun, nes inni gael gwared â dicter yr Arglwydd yn y mater hwn.”

14 Ymgymerodd Jonathan fab Asael a Jesias fab Thocanus â'r gwaith ar yr amodau hyn, gyda Mosolamus, Lefi a Sabbataius yn cydeistedd â hwy.

15 Gweithredodd y rhai a ddaeth o'r gaethglud yn ôl y trefniant hwn ym mhob peth.

16 Dewisodd Esra yr offeiriad iddo'i hun ddynion oedd yn bennau-teuluoedd, pob un wrth ei enw, ac ar y dydd cyntaf o'r degfed mis eisteddasant gyda'i gilydd i archwilio'r mater.

17 Daethpwyd i ben ag achos y gwŷr a fu'n cyd-fyw â gwragedd estron erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.

Y Rhai oedd wedi Priodi Gwragedd Estron

18 Ymysg yr offeiriaid a ddaeth ynghyd, darganfuwyd bod y canlynol wedi priodi gwragedd estron:

19 o deulu Jesua fab Josedec a'i frodyr: Maseas, Eleasar, Joribus a Jodanus.

20 Gwnaethant addewid i fwrw allan eu gwragedd ac offrymu hyrddod yn foddion puredigaeth am eu cyfeiliornad.

21 O feibion Emmer: Ananias, Sabdaius, Manes, Samaius, Jiel ac Asarias.

22 O feibion Phaiswr: Elionais, Massias, Ismael, Nathanael, Ocidelus a Salthas.

23 O'r Lefiaid: Josabdus, Semeïs, Colius (hynny yw Calitas), Pathaius, Jwda a Joanas.

24 O'r cantorion: Eliasibus, Bacchwrus.

25 O'r porthorion: Salwmus a Tolbanes.

26 O Israel, o feibion Phoros: Jermas, Jesias, Melchias, Miaminus, Eleasar, Asibias a Bannaias.

27 O feibion Elam: Matanias, Sacharias, Jesrielus, Obadius, Jeremoth ac Elias.

28 O feibion Samoth: Eliadas, Eliasimus, Othonias, Jarimoth, Sabathus a Serdaias.

29 O feibion Bebai: Joannes, Ananias, Sabdus ac Emathis.

30 O feibion Mani: Olamus, Mamwchus, Jedaius, Jaswbus, Asaelus a Jeremoth.

31 O feibion Adi: Naathus, Moossias, Laccwnus, Naïdus, Bescaspasmus, Sesthel, Balnwus a Manasseas.

32 O feibion Annas: Elionas, Asaias, Melchias, Sabbaias a Simon Chosamaius.

33 O feibion Asom: Maltannaius, Mattathias, Sabannaius, Eliffalat, Manasses a Semoï.

34 O feibion Baani: Jeremias, Momdius, Maerus, Jwel, Mamdai, Pedias, Anos, Cara-basion, Eliasibus, Mamnitanaimus, Eliasis, Bannus, Elialis, Someïs, Selemias a Nathanias. O feibion Esora: Sessis, Esril, Asaelus, Samatus, Sambris a Josepus.

35 O feibion Nooma: Masitias, Sabadaias, Edais, Jwel a Banaias.

36 Yr oedd y rhain i gyd wedi priodi gwragedd estron, a throesant hwy allan gyda'u plant.

Esra yn Darllen y Gyfraith i'r Bobl

37 Gwladychodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a'r Israeliaid yn Jerwsalem a'i chyffiniau. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis, a'r Israeliaid yn awr yn eu gwladfeydd,

38 ymgasglodd yr holl gynulleidfa fel un gŵr ar y sgwâr o flaen porth dwyreiniol y deml,

39 a galw ar Esra yr archoffeiriad a'r darllenydd i ddod â chyfraith Moses, a roddwyd gan Arglwydd Dduw Israel.

40 Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra'r archoffeiriad â'r gyfraith o flaen yr holl gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, a'r holl offeiriaid, iddynt ei chlywed.

41 Darllenodd ohoni ar y sgwâr o flaen porth y deml o doriad gwawr hyd hanner dydd yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd, a gwrandawodd yr holl gynulleidfa'n astud ar y gyfraith.

42 Yr oedd Esra, yr offeiriad a darllenydd y gyfraith, ar lwyfan pren wedi ei ddarparu i'r diben.

43 Ar yr ochr dde iddo yr oedd Mattathias, Sammus, Ananias, Asarias, Wrias, Esecias a Baalsamus,

44 ac ar y chwith Phadaius, Misael, Melchias, Lothaswbus, Nabarias a Sacharias.

45 Cymerodd Esra lyfr y gyfraith yng ngolwg y gynulleidfa, oherwydd yr oedd yn eistedd yn y lle amlycaf o'u blaen i gyd,

46 a phan agorodd y gyfraith, safodd pawb ar eu traed. Bendithiodd Esra'r Arglwydd Dduw Goruchaf, Duw y lluoedd, yr Hollalluog,

47 a gwaeddodd yr holl gynulleidfa, “Amen”, gan godi eu dwylo a syrthio i'r llawr ac addoli'r Arglwydd.

48 Yr oedd Jesua, Anniwth, Sarabias, Jadinus, Jacwbus, Sabbataius, Autaias, Maiannas, Calitas, Asarias, Josabdus, Ananias a Phalias, y Lefiaid, yn dysgu cyfraith yr Arglwydd, yn ei darllen i'r gynulleidfa a goleuo'r darlleniad yr un pryd.

49 Dywedodd y llywodraethwr wrth Esra, yr archoffeiriad a darllenydd y gyfraith, ac wrth bob un o'r Lefiaid oedd yn dysgu'r gynulleidfa,

50 “Y mae'r dydd hwn yn sanctaidd i'r Arglwydd.” Ac yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar y gyfraith.

51 “Ewch,” meddai, “bwytewch fwyd bras ac yfwch win melys, ac anfonwch gyfran i'r rhai sydd heb ddim,

52 oherwydd y mae'n ddydd sanctaidd i'r Arglwydd. Peidiwch â galaru, oherwydd bydd yr Arglwydd yn eich gogoneddu.”

53 Rhoddodd y Lefiaid orchymyn i'r holl bobl: “Y mae'r dydd hwn yn sanctaidd, peidiwch â galaru.”

54 Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed, i lawenhau ac i anfon cyfran i'r rhai oedd heb ddim, ac i orfoleddu'n fawr,

55 oherwydd yr oeddent wedi eu goleuo gan y geiriau a ddysgwyd iddynt. Ac ymgynullasant.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9