1 Gwnaeth y Brenin Dareius wledd fawr i'r holl rai oddi tano, i'w holl deulu, i holl arweinwyr Media a Persia,
2 i'r holl benaethiaid, y cadfridogion a'r swyddogion oedd oddi tano yn y cant dau ddeg a saith o daleithiau o'r India i Ethiopia.
3 Ar ôl iddynt fwyta ac yfed a chael eu digon ymadawsant, ac aeth y Brenin Dareius i'w ystafell wely a chysgu, ond yna deffrôdd.
4 Wedyn dywedodd y tri llanc oedd yn gwarchod y brenin, y naill wrth y llall,
5 “Gadewch i bob un ohonom enwi un peth, y peth cryfaf, ac fe rydd y Brenin Dareius roddion gwerthfawr a gwobrau gwych i'r sawl y bydd ei ddywediad yn ymddangos yn ddoethach na'r lleill.
6 Fe'i gwisgir mewn porffor, caiff yfed allan o lestri aur, cysgu ar wely aur, cael cerbyd â ffrwynau aur, penwisg o liain main, a chadwyn am ei wddf.
7 Caiff eistedd yn nesaf at Dareius oherwydd ei ddoethineb, a dwyn yr enw, ‘Câr Dareius’.”
8 Yna ysgrifennodd pob un ei ateb ei hun, ei selio a'i osod o dan obennydd y Brenin Dareius,
9 gan ddweud, “Pan fydd y brenin yn deffro, rhoddir iddo yr hyn a ysgrifennwyd. I'r un y bydd y brenin a thri arweinydd Persia yn barnu mai ei ateb yw'r doethaf y rhoddir y fuddugoliaeth yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd.”
10 Ysgrifennodd y cyntaf, “Gwin sydd gryfaf.”
11 Ysgrifennodd yr ail, “Y brenin sydd gryfaf.”
12 Ysgrifennodd y trydydd, “Gwragedd sydd gryfaf, ond y mae gwirionedd yn drech na phopeth.”
13 Pan ddeffrôdd y brenin, cymerasant yr hyn a ysgrifennwyd a'i roi iddo, ac fe'i darllenodd.
14 Yna anfonodd a galw ynghyd holl arweinwyr Persia a Media, y penaethiaid, y cadfridogion, y swyddogion a'r is-swyddogion.
15 Eisteddodd yn ystafell y cyngor, a darllenwyd yr hyn a ysgrifennwyd yng ngŵydd pawb.
16 Yna dywedodd, “Galwch y llanciau er mwyn iddynt gael egluro'u hatebion.” Fe'u galwyd i mewn,
17 a dywedwyd wrthynt, “Eglurwch inni'r hyn a ysgrifennwyd gennych.”Dechreuodd y cyntaf, yr un a soniai am gryfder gwin,
18 drwy ddweud, “Foneddigion, ym mha ffordd y mae gwin gryfaf? Mae'n drysu meddwl pob un sy'n ei yfed.
19 Mae'n effeithio ar feddwl y brenin a'r amddifad, y caeth a'r rhydd, y tlawd a'r cyfoethog, yn yr un ffordd.
20 Mae'n troi pob meddwl at gyfeddach a llawenydd, nes anghofio pob tristwch a phob dyled.
21 Gwna i bawb ymddwyn fel cyfoethogion, heb falio am na brenin na phennaeth, ond siarad am bopeth fel petai'n filiwnydd.
22 Wrth yfed, nid ydynt yn malio am gyfeillachu â ffrindiau a theulu, a chyn bo hir tynnant eu cleddyfau.
23 Wedi sobri, nid ydynt yn cofio beth a wnaethant.
24 Foneddigion, onid gwin sydd gryfaf, gan ei fod yn gorfodi pobl i ymddwyn fel hyn?” Tawodd ar ôl dweud hyn.