1 Yna dilynodd Sisinnes, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr gyfarwyddiadau'r Brenin Dareius,
2 a goruchwylio'r gwaith cysegredig yn fanwl gan gydweithredu â henuriaid yr Iddewon a swyddogion y deml.
3 Llwyddodd y gwaith cysegredig trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai a Sechareia y proffwydi.
4 Ac felly, trwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac â chydsyniad Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia, daeth y gwaith i ben
5 a gorffennwyd y tŷ sanctaidd erbyn y trydydd dydd ar hugain o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Dareius.
6 Gweithredodd yr Israeliaid, yr offeiriaid a'r Lefiaid a gweddill y caethgludion a ymunodd â hwy, yn unol â'r hyn a gynhwyswyd yn llyfr Moses.
7 Wrth gysegru teml yr Arglwydd offrymasant gant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn,
8 a deuddeg gafr, yn ôl nifer penaethiaid llwythau Israel, yn bechaberth dros holl Israel.
9 Safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu gwisgoedd fesul teulu i oruchwylio gwasanaethau Arglwydd Dduw Israel yn unol â llyfr Moses, tra safai'r porthorion wrth bob porth.
10 Felly cadwodd yr Israeliaid a ddaeth o'r gaethglud y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Cafodd yr offeiriaid eu puro, a'r Lefiaid gyda hwy.
11 Er na phurwyd y caethgludion i gyd, am fod pob un o'r Lefiaid wedi ei buro,
12 lladdasant oen y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u brodyr yr offeiriaid, a hwy eu hunain.
13 Fe'i bwytawyd gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud, gan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid pobloedd y wlad, er mwyn ceisio'r Arglwydd.
14 Cadwyd gŵyl y Bara Croyw mewn llawenydd o flaen yr Arglwydd am saith diwrnod,
15 oherwydd iddo ddarbwyllo brenin Asyria i'w cynorthwyo yng ngwaith Arglwydd Dduw Israel.