11 Pwy, felly, a ddylai alaru fwyaf? Onid y ddaear, a gollodd liaws mor fawr, yn hytrach na thi, nad wyt yn galaru ond am un person?
12 Dichon y dywedi wrthyf, ‘Nid yw fy ngalarnad i yn debyg i alarnad y ddaear, oherwydd fe gollais i ffrwyth fy nghroth fy hun, a ddygais i'r byd mewn gwewyr ac yr esgorais arno â phoenau;
13 ond y mae'r ddaear yn gweithredu yn ôl ffordd y ddaear, a'r lliaws sy'n bresennol arni yn ymadael yn yr un modd ag y daethant.’ Fy ateb i yw hyn:
14 fel y bu i ti trwy boen roi genedigaeth, yn yr un modd y rhoes y ddaear o'r dechreuad ei ffrwyth, sef y ddynol ryw, i'w Chreawdwr.
15 Yn awr, felly, cadw dy ofid i ti dy hun, a dioddef yn wrol y trallodion a ddaeth arnat.
16 Oherwydd os derbynni di fod dyfarniad Duw yn gyfiawn, ymhen amser fe gei dy fab yn ôl, a bydd iti glod ymhlith gwragedd.
17 Dos, felly, i'r ddinas at dy ŵr.”