28 “Ble mae'r angel Uriel, a ddaeth ataf yn y dechrau? Oherwydd ef a barodd imi yr holl ddryswch meddwl hwn. Gwnaethpwyd llygredigaeth yn ddiwedd imi, a throwyd fy ngweddi yn gerydd.”
29 A minnau'n llefaru'r geiriau hyn, dyma'r angel a ddaethai ataf yn y dechrau yn cyrraedd. Pan welodd fi'n
30 gorwedd fel dyn marw, a'm meddwl wedi ei ddrysu, gafaelodd yn fy llaw dde a'm cyfnerthu; cododd fi ar fy nhraed, a dweud:
31 “Beth sy'n bod arnat? Beth yw achos dy gynnwrf? Pam y mae dy ddeall, a theimladau dy galon, wedi eu cynhyrfu?”
32 “Am i ti fy llwyr adael i,” atebais innau. “Oherwydd yr wyf wedi gwneud yr hyn a ddywedaist wrthyf: deuthum allan i'r maes; ac ar fy ngwir, gwelais—a gwelaf o hyd—bethau na allaf eu hadrodd.”Meddai ef wrthyf:
33 “Saf ar dy draed fel dyn, ac fe egluraf hyn i ti.”
34 “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau; “yn unig paid â'm gadael i farw yn ddibwrpas.