34 “Llefara, f'arglwydd,” atebais innau; “yn unig paid â'm gadael i farw yn ddibwrpas.
35 Oherwydd yr wyf wedi gweld pethau, ac yr wyf yn clywed pethau sydd y tu hwnt i'm dirnadaeth—
36 os nad yw fy synhwyrau'n methu a minnau'n breuddwydio.
37 Felly rwy'n crefu arnat yn awr egluro'r dryswch hwn i'th was.”
38 Atebodd ef fi: “Gwrando arnaf fi, ac fe'th ddysgaf, ac egluraf iti ynglŷn â'r pethau yr wyt yn eu hofni, oherwydd y mae'r Goruchaf wedi datguddio dirgelion lawer iti.
39 Oherwydd gwelodd dy ffordd uniawn, dy dristwch parhaus am dy bobl a'th fawr alar dros Seion.
40 Dyma, felly, yr esboniad ar y weledigaeth. Ychydig amser yn ôl ymddangosodd gwraig iti,