1 Yr ail noson cefais freuddwyd, a gweld yn dod i fyny o'r môr eryr a chanddo ddeuddeg aden bluog a thri phen.
2 Edrychais, a dyma'r eryr yn lledu ei adenydd dros yr holl ddaear; chwythodd holl wyntoedd y nefoedd arno ef, ac ymgasglodd y cymylau o'i gwmpas.
3 Allan o'i adenydd ef gwelais wrth-adenydd yn tarddu, ond heb dyfu'n ddim ond adenydd bach a phitw.
4 Yr oedd ei bennau yn gorffwys yn llonydd; yr oedd hyd yn oed y pen canol, er ei fod yn fwy na'r pennau eraill, yn gorffwys yn llonydd gyda hwy.
5 Wrth imi edrych, dyma'r eryr yn hedfan ar ei adenydd i ennill arglwyddiaeth ar y ddaear a'i thrigolion.
6 Gwelais fel y gwnaed popeth dan y nefoedd yn ddarostyngedig iddo; ac ni chafodd ei wrthwynebu gan unrhyw greadur ar wyneb y ddaear, naddo gan un.