10 Sylwais hefyd nad allan o'i bennau ef yr oedd y llais yn dod, ond o ganol ei gorff.
11 Rhifais ei wrth-adenydd ef, a gweld bod wyth ohonynt.
12 Wrth imi edrych, dyma un o'r adenydd ar y llaw dde yn codi ac yn teyrnasu dros yr holl ddaear.
13 Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrnasiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir.
14 A phan oedd diwedd ei theyrnasiad yn agosáu, a hithau ar fin diflannu fel y gyntaf,
15 dyma lais yn ei chlyw yn dweud:
16 “Gwrando di, ti a fu'n rheoli'r ddaear cyhyd; y mae gennyf y neges hon i'w rhoi cyn iti ddechrau mynd o'r golwg.