24 Wrth imi edrych, dyma ddwy o'r chwech aden fach yn ymddidoli oddi wrth y lleill ac yn aros o dan y pen ar y dde; arhosodd y pedair arall yn eu lle.
25 Yna gwelais yr is-adenydd hyn yn cynllunio i'w dyrchafu eu hunain i gael teyrnasu.
26 Dyma un ohonynt yn codi, ond diflannodd ar unwaith;
27 gwnaeth yr ail yr un modd, ond diflannodd hon yn gyflymach na'r un o'i blaen.
28 Yna, wrth imi edrych, gwelais y ddwy oedd ar ôl yn cyd-gynllunio i gael teyrnasu eu hunain.
29 Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno.
30 Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun,