29 Ac wrth iddynt gynllunio, dyma un o'r pennau oedd yn gorffwyso—yr un yn y canol, oedd yn fwy na'r ddau arall—yn dechrau dihuno.
30 Gwelais hefyd iddo uno'r ddau ben arall ag ef ei hun,
31 a throi, ynghyd â'r pennau oedd gydag ef, a bwyta'r ddwy is-aden oedd yn cynllunio i gael teyrnasu.
32 Darostyngodd y pen hwn yr holl ddaear iddo'i hun, ac arglwyddiaethu ar ei thrigolion â gormes mawr; ac yr oedd ei arglwyddiaeth fyd-eang ef yn rymusach nag eiddo'r holl adenydd a fu o'i flaen.
33 Ar ôl hynny edrychais eto, ac yn sydyn dyma'r pen oedd yn y canol yn diflannu, yn union fel yr adenydd.
34 Ond yr oedd dau ben yn aros, a buont hwythau'n teyrnasu dros y ddaear a'i thrigolion;
35 ac wrth imi edrych, dyma'r pen ar y dde yn llyncu'r un ar y chwith.