43 Ond y mae dy draha wedi codi i fyny at y Goruchaf, a'th falchder at yr Hollalluog.
44 Y mae'r Goruchaf wedi edrych yn ôl ar ei amserau; y maent wedi dod i ben, ac y mae ei oesoedd ef wedi eu cyflawni.
45 Felly rhaid i ti, yr eryr, ddiflannu o'r golwg yn llwyr, ynghyd â'th adenydd ofnadwy, a'th is-adenydd ysgeler, dy bennau atgas, dy ewinedd creulon, a'th holl gorff diwerth.
46 Felly, wedi ei gwaredu oddi wrth dy drais di, caiff yr holl ddaear adfywiad ac adnewyddiad; yna gall obeithio am farn ac am drugaredd yr Un a'i creodd.”