7 Edrychais, a dyma'r eryr yn sefyll ar ei ewinedd ac yn llefaru wrth ei adenydd fel hyn:
8 “Peidiwch oll â chadw gwyliadwriaeth yr un pryd; cysgwch bob un yn ei le, a gwylio yn ei dro;
9 ond y mae'r pennau i'w cadw hyd yn ddiwethaf.”
10 Sylwais hefyd nad allan o'i bennau ef yr oedd y llais yn dod, ond o ganol ei gorff.
11 Rhifais ei wrth-adenydd ef, a gweld bod wyth ohonynt.
12 Wrth imi edrych, dyma un o'r adenydd ar y llaw dde yn codi ac yn teyrnasu dros yr holl ddaear.
13 Ac yna daeth diwedd arni hi ac ar ei theyrnasiad; a diflannodd o'r golwg, ac ni welwyd ei lle mwyach. Yna cododd y nesaf, a bu hithau'n teyrnasu am amser hir.