1 Tra oedd y llew yn llefaru'r geiriau hyn wrth yr eryr, edrychais;
2 ac wele, diflannodd yr un pen oedd ar ôl. Yna cododd y ddwy aden a aethai drosodd ato, a'u dyrchafu eu hunain i deyrnasu; ond tlawd a therfysglyd oedd eu teyrnasiad hwy.
3 Wrth imi edrych, dyma hwythau'n dechrau diflannu, a llosgwyd holl gorff yr eryr yn fflamau, a dychrynodd y ddaear yn fawr.Dihunais innau, yn ddryslyd iawn fy meddwl ac mewn braw mawr, a dweud wrthyf fy hun:
4 “Edrych, ti dy hun a ddaeth â'r pethau hyn arnat, am dy fod yn chwilio ffyrdd y Goruchaf.
5 Rwy'n dal yn flinedig fy meddwl ac yn lluddedig iawn fy ysbryd, ac nid oes ynof nemor ddim nerth, oherwydd yr ofn mawr a fu arnaf y nos hon.
6 Am hynny, gweddïaf yn awr ar y Goruchaf i'm cynnal hyd y diwedd.”