14 Bydd deuddeg brenin yn olynol yn llywodraethu ar y deyrnas honno,
15 ac o'r deuddeg, yr ail i ddod i'r deyrnas a fydd yn teyrnasu hwyaf.
16 Dyna'r esboniad ar y deuddeg aden a welaist.
17 Ynglŷn â'r llais a glywaist yn dod allan, nid o bennau'r eryr ond o ganol ei gorff, ac yn llefaru,
18 dyma'r esboniad ar hwnnw: yn dilyn cyfnod teyrnasiad yr ail frenin, fe gyfyd ymrafaelion nid bychan, a bydd y deyrnas mewn perygl o gwympo; eto ni chwymp y pryd hwnnw, ond fe'i hadferir i'w chyflwr cychwynnol.
19 A dyma'r esboniad ar yr wyth is-aden a welaist yn glynu wrth ei adenydd ef:
20 fe gyfyd o fewn i'r deyrnas wyth brenin, y bydd eu hamserau yn ddibwys a'u blynyddoedd yn fyr; derfydd am ddau ohonynt