22 Ynglŷn â'r tri phen a welaist yn gorffwys yn llonydd,
23 dyma'r esboniad: ym mlynyddoedd olaf y deyrnas, fe gyfyd y Goruchaf dri brenin i ddwyn adferiad mawr iddi, a byddant hwy yn arglwyddiaethu ar y ddaear
24 a'i thrigolion â mwy o ormes na'r holl rai a fu o'u blaen. Felly fe'u gelwir hwy yn bennau'r eryr,
25 am mai hwy yw'r rhai a fydd yn gweithio'i weithredoedd annuwiol ef i'w pen, ac yn rhoi terfyn llwyr arno.
26 Ynglŷn â'r pen mwyaf a welaist yn diflannu, y mae hynny'n arwyddo y bydd farw un ohonynt yn ei wely, ond mewn arteithiau.
27 Caiff y ddau sy'n aros eu lladd â'r cleddyf;
28 oherwydd difethir un ohonynt gan gleddyf y llall, ond yn y diwedd bydd hwnnw hefyd yn syrthio gan gleddyf.