33 Oherwydd yn gyntaf bydd yn eu dwyn yn fyw i farn, ac yna, ar ôl eu profi'n euog, yn eu dinistrio.
34 Ond fe ddengys drugaredd tuag at weddill fy mhobl, pawb o fewn terfynau fy nhir a gadwyd yn ddiogel, a'u rhyddhau; bydd yn peri iddynt orfoleddu, hyd nes i'r diwedd ddod, sef y dydd barn y soniais wrthyt amdano ar y dechrau.
35 Dyna'r freuddwyd a welaist, a dyna'i dehongliad.
36 Ti'n unig, fodd bynnag, oedd yn deilwng i wybod y gyfrinach hon o eiddo'r Goruchaf.
37 Gan hynny, ysgrifenna mewn llyfr yr holl bethau hyn a welaist, a'u gosod mewn lle dirgel,
38 a dysg hwy i'r doethion hynny o blith dy bobl y gwyddost fod eu calonnau yn gallu derbyn y cyfrinachau hyn a'u cadw'n ddiogel.
39 Ond aros di yma am saith diwrnod eto, i gael pa ddatguddiad bynnag y bydd y Goruchaf yn gweld yn dda ei roi iti.” Yna gadawodd yr angel fi.