44 Os bydd i ti ein gadael, byddai'n well o lawer pe baem ninnau hefyd wedi ein llosgi yn y tân a losgodd Seion;
45 oherwydd nid ydym ni'n well na'r rhai a fu farw yno.” Yna wylo a wnaethant yn uchel.Atebais innau hwy fel hyn:
46 “Ymwrola, Israel; a thithau, dŷ Jacob, gad dy dristwch.
47 Oherwydd y mae'r Goruchaf yn eich cofio, ac nid yw'r Hollalluog wedi eich gollwng dros gof am byth
48 Nid wyf finnau wedi eich gadael na chefnu arnoch, ond deuthum i'r lle hwn i weddïo dros anghyfanedd-dra Seion ac i geisio trugaredd i'ch cysegr, a ddarostyngwyd.
49 Yn awr ewch adref, bob un ohonoch; ac ar ôl y dyddiau hyn fe ddof atoch.”
50 Yna aeth y bobl ymaith i'r ddinas, fel y dywedais wrthynt.